Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd

 

 

 

 

 

 

 

 

CYMDEITHAS HANES A CHOFNODION SIR FEIRIONNYDD

(Elusen Gofestredig, 1102366)

 

Sylfaenwyd Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd ym Mehefin 1939, ond oherwydd i'r rhyfel dorri allan dri mis yn ddiweddarach bodolai mewn enw yn unig am rai blynyddoedd. Cynhaliwyd ei chyfarfod agoriadol yn Nolgellau ar 3 Gorffennaf 1948. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o Gylchgrawn y Gymdeithas yn 1949 dan olygyddiaeth Syr William Ll. Davies. Cyhoeddwyd tri o 'Gyhoeddiadau Ychwanegol' rhwng 1952-55 - gweler isod. Yn 1957 cychwynnodd y Gymdeithas ar brosiect i gyhoeddi Hanes swyddogol y sir a fydd, pan gwblheir y gwaith, yn gofnod cynhwysfawr ac ysgolheigaidd o hanes Meirionnydd o'r cyfnodau cynhanesyddol hyd at yr ugeinfed ganrif. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o'r Hanes hyd yma - gweler isod.

AMCANION

Amcan y Gymdeithas yw i addysgu’r cyhoedd am hanes y gyn sir Feirionnydd (‘y sir’) gan gynnwys ei harchaeoleg, adeiladau, hanes teuluol, llên gwerin, llenyddiaeth a’r holl amryfal bynciau y gellir cyfeirio atynt fel 'hynafiaethau' ac yn enwedig:

  1. cyhoeddi Cylchgrawn a fydd yn cynnwys erthyglau yn y Gymraeg a’r Saeneg, cyfraniadau ar ymchwil gyfredol, adroddiadau o’r Archifdy lleol ac ar weithrediadau’r Gymdeithas, ac adolygiadau o gyhoeddiadau ysgolheigaidd;
  2. cyhoeddi Hanes swyddogol y sir;
  3. cynnal cyfarfodydd i wrando ar bapurau sy'n berthasnol i'r sir ac ar gyfer trafodaeth;
  4. trefu cyfarfodydd maes mewn safleoedd hanesyddol yn y sir neu mewn unrhyw gyn sir gyfagos;
  5. annog, hyrwyddo a datbygu'r gwaith o sefydlu cymdeithasau hanes lleol o fewn y sir;
  6. annog a hyrwyddo diogelu dogfennau hanesyddol sy'n berthnasol i'r sir.

AELODAETH

  1. Mae aelodaeth o'r Gymdeiithas, drwy wneud cais a thalu'r tâl aelodaeth blynyddol llawn, yn agored i bob person a sefydliad sydd â diddordeb mewn hyrwyddo amcanion y Gymdeithas.
  2. Mae gan bob aelod hawl i fynychu holl gyfarfodydd y Gymdeithas ac i bleidleisio ynddynt, ac mae ganddynt hefyd hawl i dderbyn copi o Gylchgrawn y Gymdeithas. ( Mae gan aelodau sy'n elwa drwy dalu tanysgrifiad blynyddol ar y cyd yr hawl i dderbyn un copi yn unig o'r Cylchgrawn.)

 

TANYSGRIFIADAU

  1. Fe bennir tâl aelodaeth blynyddol y Gymdeithas gan yr Ymddiriedolwyr o bryd i'w gilydd. Y tanysgrifiad presennol yw:
  2. (a) £10:00 aelodaeth sengl;
    (b)£15:00 aelodaeth ar y cyd a sefydliadau.

  3. Mae'r tâl aelodaeth yn ddyledus ar 1 Ebrill bob blwyddyn.

CYFARFODYDD

  1. Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas yn yr hydref bob blwyddyn.
  2. Trefnir o leiaf ddau gyfarfod arall gan y Cyngor yn flynyddol a fydd yn cynnwys:
(a) papur yn y Gymraeg i'w ddarllen a'i drafod;
(b) cyfarfod maes mewn safle hanesyddol yn y sir neu mewn unrhyw gyn sir gyfagos.

CYHOEDDIADAU:  

  1. Cylchgrawn blynyddol y Gymdeithas ers 1949; mae llawer o'r rhifynnau cynnar allan o brint erbyn hyn.
  2. Mynegai i'r Cylchgrawn, Cyf. I – X (1949-89) i'w gyhoeddi ar CD yn 2008.
  3. 'Cyhoeddiadau Ychwanegol', Cyfres I, Rhifau, 1-3 (1952-55):

    (a) The Memoirs of Samuel Holland: One of the Pioneers of the North Wales Slate Industry. Allan o brint .
    (b) Atgofion Amaethwr gan Gomer Roberts. Gol. C. Bryner Jones. Allan o brint
    (c) The Merioneth Miscellany. Allan o brint .
    (i)'Some Botanical Exploration in Merionethshire' gan P. W. Carter;
    (ii) 'A Report on the Deanery of Penllyn and Edeirnion presented by the Reverend John Wynne in 1730'. Crynhowyd o'r Llsgrau.gan G. M. Griffiths.
  4. History of Merioneth, Volume I: From the Earliest Times to the Age of the Native Princes by E. G. Bowen and C. A. Gresham (1967). Allan o brint
  5. History of Merioneth, Volume II: The Middle Ages. Gol.gan J. Beverley Smith a Llinos Beverley Smith (2001). Allan o brint

Cyfeirier ymholiadau ynglŷn â chyhoeddiadau'r Gymdeithas at yr Ysgrifennydd Mygedol.